Awgrymiadau Ymarfer: Cyfarfod Strategaeth – Arfer Da a Rolau/Cyfrifoldebau
Pwrpas y Cyfarfod
- Cydlynu gweithdrefnau diogelu, troseddol a chyflogaeth o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru.
- Nodi a lliniaru risgiau uniongyrchol i blant neu oedolion sy’n wynebu risg.
- Sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu cofnodi a’u bod yn seiliedig ar y Pedwar Meini Prawf Trothwy.
Egwyddorion Ymarfer Da
- Cynnull yn brydlon (cyn pen 5 diwrnod gwaith i’r drafodaeth strategol gychwynnol neu’n gynt os bydd risg yn mynnu hynny).
- Rhannu’r holl wybodaeth berthnasol, gan gynnwys atgyfeiriadau blaenorol a phryderon lefel isel.
- Adolygu digonolrwydd mesurau diogelu dros dro ac asesiadau risg sydd eisoes ar waith.
- Sicrhau bod llais y plentyn/oedolyn sy’n wynebu risg a llais yr unigolyn sy’n destun yr honiad yn cael eu hystyried drwy gydol y broses.
- Cofnodi penderfyniadau, rhesymeg a chamau gweithredu y cytunwyd arnynt yn glir ar gyfer atebolrwydd.
Enghreifftiau o Arferion Da
Paratoi cyn y cyfarfod:
Mae cyflogwyr yn cwblhau asesiad risg cyn y cyfarfod ac yn ei rannu â Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu.
Presenoldeb cynhwysol:
Gwahodd cyrff rheoleiddio perthnasol (AGC, AGIC, Estyn), cynrychiolwyr AD, ac asiantaethau sy’n ymwneud â chyflogaeth yr unigolyn.
Cyfathrebu’n glir:
Cytuno ar ba wybodaeth y gellir ei rhannu â’r unigolyn, y plentyn/oedolyn sy’n wynebu risg a’i deulu ym mhob cam.
Llais yr unigolyn:
Sicrhau bod y sawl sy’n destun yr honiad yn cael cyfle i roi ei gyfrif pan fydd hynny’n ddiogel ac yn briodol.
Llais y Plentyn/Oedolyn sy’n Wynebu Risg:
Sicrhau bod rhywun wedi siarad â’r plentyn/oedolyn sy’n wynebu risg a bod ei farn a’i brofiadau’n cael eu hystyried.
Rheoli risg:
Ystyried risgiau trosglwyddadwy y tu hwnt i’r lleoliad uniongyrchol (e.e. rolau eraill, gwaith gwirfoddol).
Cyswllt dilynol:
Trefnu cyfarfodydd ychwanegol os yw ymchwiliadau’n mynd rhagddynt a chynnal diweddariadau rheolaidd i gyflogwyr ac unigolion.
Rolau a Chyfrifoldebau
- Cadeirydd (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu)
- Cynnull a chadeirio’r cyfarfod.
- Sicrhau bod asiantaethau a chyrff rheoleiddio priodol yn cael eu gwahodd.
- Arwain y broses o wneud penderfyniadau a sicrhau cysondeb â meini prawf trothwy.
- Sicrhau bod unigolion sy’n rhan o’r broses yn cael eu cefnogi a bod gwybodaeth briodol yn cael ei rhannu â nhw.
- Cofnodi a monitro camau gweithredu ac amserlenni.
- Cynrychiolydd y Cyflogwr/Sefydliad
- Darparu gwybodaeth am rôl yr unigolyn ac unrhyw asesiadau risg mewnol.
- Ystyried addasrwydd i barhau i weithio a rhoi mesurau diogelu interim ar waith.
- Sicrhau cefnogaeth lles i’r unigolyn sy’n destun yr honiad.
- Cwblhau unrhyw atgyfeiriadau/hysbysiadau angenrheidiol i gyrff proffesiynol, rheoleiddiol.
- Yr Heddlu a’r Gwasanaethau Cymdeithasol
- Rhannu gwybodaeth sy’n berthnasol i ymchwiliadau troseddol neu ddiogelu.
- Cytuno ar asiantaeth arweiniol ar gyfer ymholiadau a chyfweliadau.
- Cyrff Rheoleiddio (e.e. AGC, AGIC, Estyn):
- Rhoi cyngor ar gydymffurfio â safonau proffesiynol a gofynion rheoleiddiol.