Rhannu Cymraeg English

Diffiniadau Allweddol a’r Meini Prawf Trothwy

Adref 5

Rhaid ystyried y gweithdrefnau hyn os honnir bod unigolyn sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg wedi:

  1. Ymddwyn mewn ffordd sydd wedi niweidio neu a allai fod wedi niweidio plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg.
  2. Cyflawni trosedd o bosibl yn erbyn, neu’n gysylltiedig â, plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg.
  3. Ymddwyn tuag at blentyn neu oedolyn mewn ffordd sy’n dangos y gallai beri risg o niwed.
  4. Ymddwyn yn ei fywyd personol mewn ffordd a allai awgrymu ei fod yn peri risg yn ei swydd/ei waith gwirfoddoli

Dyma’r Pedwar Meini Prawf Trothwy.

Mae’r meini prawf trothwy hefyd yn berthnasol pan fydd yr unigolyn yn gweithio mewn asiantaeth/lleoliad lle mae gofynion corff rheoleiddio/proffesiynol e.e. yr heddlu, y gwasanaeth prawf, meddygon, athrawon.

Mae gan unigolyn mewn sefyllfa o ymddiriedaeth rôl sy’n cynnwys awdurdod, dylanwad, pŵer neu gyfrifoldeb dros blant neu oedolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth. Rhaid i’r unigolyn beidio â chamddefnyddio’r sefyllfa honno er mwyn camfanteisio, manipiwleiddio, nac achosi niwed.

Awgrymiadau Ymarfer: Trothwy a Gwneud Penderfyniadau