D.S. Adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol sy’n ymateb i adroddiadau am blentyn/oedolyn sy’n wynebu risg o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio. Defnyddir y term ‘gwasanaethau cymdeithasol’ yn y gweithdrefnau hyn yn hytrach nag awdurdod lleol
Bydd gan bob adran gwasanaethau cymdeithasol eu trefniadau eu hunain ar gyfer gwneud adroddiadau mewn perthynas â chyhuddiadau yn erbyn ymarferwyr/unigolion mewn sefyllfa o ymddiriedaeth.
Fel y cyfeiriwyd ato’n flaenorol, mae Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu yn gyfrifol am dderbyn, ymateb i, gwneud penderfyniadau a monitro pob adroddiad mewn perthynas â honiadau yn erbyn ymarferwyr/unigolion mewn sefyllfa o ymddiriedaeth.
Y penderfyniad cychwynnol
Bydd Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu yn gwneud yr ystyriaethau angenrheidiol yn dilyn adroddiad a bydd yn penderfynu a oes angen symud ymlaen i broses Adran 5. Dylid rhannu penderfyniad canlyniad yr adroddiad â’r sawl sy’n llunio’r adroddiad cyn gynted â phosibl.
Pan dderbynnir adroddiadau/atgyfeiriadau Adran 5, rhaid i Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu gofnodi’r penderfyniad ynghylch canlyniad yr atgyfeiriad yn y system cofnodion cleientiaid y cytunwyd arni.
Bydd Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu yn defnyddio’r 4 maen prawf trothwy wrth ystyried unrhyw adroddiad ac ystyriaeth o risg drosglwyddadwy i unrhyw gyflogaeth/gwirfoddoli arall.
Bydd Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu yn trafod gyda’r cyflogwr/unigolyn sy’n adrodd pa wybodaeth y dylid ei darparu i’r unigolyn y gwneir yr honiad yn ei erbyn, gan ystyried unrhyw ymchwiliadau troseddol sy’n cydredeg. Gellid gofyn am gyngor gan yr heddlu hefyd os credir y gallai fod angen ymchwiliad troseddol. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd y gyfraith cyflogaeth yn mynnu bod y cyflogwr yn rhoi gwybod i’w weithiwr beth yw sylwedd yr honiad yn ei erbyn o leiaf os yw am ddechrau proses ddisgyblu yn ei erbyn, neu os yw’n cymryd camau fel atal y gweithiwr dros dro neu ei ail-neilltuo mewn ffordd sy’n newid ei rôl yn sylweddol. Ni ddylid cadw natur yr honiad yn ôl oddi wrth yr unigolyn oni bai fod rhesymau penodol wedi’u dogfennu dros wneud hynny, h.y. gallai roi eraill mewn perygl neu lesteirio ymchwiliad troseddol. Y cyflogwr sy’n gyfrifol am ei benderfyniadau mewn perthynas â’i weithiwr a dylai ddilyn cyngor ei adran Adnoddau Dynol a/neu gyngor cyfreithiol fel y bo’n briodol.
Dylid ystyried lefel y manylion a’r wybodaeth sy’n cael ei darparu ar bob cam o’r prosesau. Nid penderfyniad untro yw darparu manylion cyfyngedig oherwydd ymchwiliadau/ymholiadau eraill. Dylid adolygu hyn ar bob cam er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n briodol.
Rhaid ystyried atgyfeiriadau blaenorol wrth ddefnyddio’r meini prawf trothwy i asesu risg a bregusrwydd. Gallai casgliad o bryderon lefel isel a adroddwyd, nad oeddent efallai’n bodloni’r meini prawf trothwy o’r blaen, ddangos problemau o ran addasrwydd a risg a bydd angen eu cynnwys yn y broses.
Os mai’r penderfyniad cychwynnol yw nad yw hyn yn bodloni’r meini prawf trothwy i symud ymlaen o fewn proses adran 5, bydd hyn yn cael ei gyfleu i’r asiantaeth adrodd. RHAID COFNODI’R PENDERFYNIAD HWN
Mae’n bosibl y dylid defnyddio prosesau mewnol y cyflogwr ei hun, neu mae’n bosibl nad yw’r adroddiad yn bodloni’r meini prawf yn y gweithdrefnau hyn.
Gw 'Pedwar Meini Prawf Trothwy'
Efallai fod y niwed, y risg a/neu’r gweithgarwch troseddol wedi digwydd ym mywyd preifat unigolyn, a rhaid ystyried y sefyllfaoedd hyn yn yr un ffordd â’r rheini lle mae honiadau/pryderon yn cael eu codi mewn lleoliad/gweithle.
Awgrymiadau Ymarfer: Canllawiau Gwneud Penderfyniadau Trothwy