Cyfarfod/Trafodaeth Strategaeth Adran 5
Adref 5
Lle bo’n briodol, bydd trafodaeth strategol adran 5 yn cael ei chynnal gyda’r Heddlu ac unrhyw asiantaethau/partneriaid a chyflogwyr priodol eraill. Fel rhan o’r broses hon, bydd y Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu yn ystyried llywio unrhyw gorff/arolygiaeth reoleiddio berthnasol fel Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Estyn ac unrhyw gyrff proffesiynol perthnasol fel y bo’n briodol.
Os bodlonir y meini prawf i symud ymlaen o fewn y broses, rhaid eu gwahodd i gymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau/cyfarfodydd strategaeth dilynol.
Dyma yw pwrpas a ffocws trafodaeth strategaeth adran 5:
- Penderfynu a yw’r mater yn cyrraedd y trothwy ar gyfer symud ymlaen i broses Strategaeth Broffesiynol ffurfiol – Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad hwn
- Nodi unrhyw weithgareddau neu gyfrifoldebau gofalu am oedolion sy’n wynebu risg neu blant y mae’r unigolyn yn ymwneud â nhw y tu allan i’w gyflogaeth
- Ystyried mesurau diogelu dros dro tra gwneir ymholiadau pellach. - Pa asesiadau risg sydd wedi’u cynnal yn barod? A ydynt yn ddigonol i reoli a lliniaru risgiau posibl?
- Cyfrifoldeb y cyflogwr yw ystyried pa mor addas yw’r unigolyn i barhau i weithio.
- Adolygu digonolrwydd y mesurau diogelu sydd ar waith ar gyfer y dioddefwr/dioddefwyr honedig (os oes un) a’r unigolyn sy’n cael ei atgyfeirio i’r broses.
- Penderfyniadau ynghylch pa wybodaeth y gellir ei rhannu â’r unigolyn y gwneir yr honiad yn ei erbyn, yr oedolyn sy’n wynebu risg neu’r plentyn a’i riant/gofalwr.
- Penderfyniadau am gynnwys cyflogwyr yn y broses.
- Cytuno ar unrhyw gamau i’w cymryd neu unrhyw wybodaeth bellach sydd ei hangen cyn Cyfarfod Strategaeth Adran 5
- Penderfynu a oes angen rhoi gwybod i’r uwch reolwyr ar unwaith
- Nodi materion troseddol y mae angen ymchwilio iddynt.
- Sicrhau bod unrhyw fesurau diogelu sydd eu hangen ar unwaith wedi cael eu rhoi ar waith.
Cyfarfod Strategaeth Adran 5:
Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu fydd yn cadeirio ac yn gyfrifol am gynnull y cyfarfodydd hyn.
Prif swyddogaethau cyfarfod strategaeth adran 5 yw:
- Sicrhau bod gweithdrefnau diogelu plant, diogelu oedolion, troseddol a chyflogaeth yn cael eu cydlynu yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
- Rhannu’r holl wybodaeth berthnasol am yr honiad dan sylw ac ystyried unrhyw atgyfeiriadau blaenorol, pryderon lefel isel a/neu brosesau Adran 5 blaenorol (a’u canlyniadau).
- Ystyried pa gamau y gallai fod eu hangen i amddiffyn yr oedolyn sy’n wynebu risg neu’r plentyn dan sylw
- Ystyried/nodi risgiau trosglwyddadwy a’r camau gweithredu sydd eu hangen i liniaru’r risgiau hynny
- Ystyried y tebygolrwydd o niwed i oedolion eraill sy’n wynebu risg neu blant y mae gan yr unigolyn gyswllt â nhw yn y gwaith neu mewn gweithgareddau eraill, a chytuno ar unrhyw gamau sy’n ofynnol
- Ystyried a gwerthuso’r risg o niwed i blant yr unigolyn ei hun (os oes ganddo blant), a chytuno ar unrhyw gamau sy’n ofynnol
- Cynllunio unrhyw ymholiadau sydd eu hangen a dyrannu tasgau a phennu amserlenni
- Penderfynu pwy fydd yn cael ei gyfweld a phwy fydd yr asiantaeth sy’n arwain
- Pennu rheolwr cyswllt arweiniol ym mhob asiantaeth
- Penderfynu pa wybodaeth y gellir ei rhannu â phwy, pryd a phwy fydd yn gwneud hyn
- Cytuno ar amserlenni ar gyfer camau gweithredu a/neu ddyddiadau ar gyfer cyfarfodydd pellach
- Ystyried a yw’r unigolyn yn addas i barhau i weithio gydag oedolion sy’n wynebu risg neu blant yn ei sefyllfa bresennol
- Ystyried a oes angen cychwyn gweithdrefnau disgyblu.
Sylwch mai mater i’r cyflogwr yw cynnal unrhyw weithdrefnau disgyblu. - Ystyried yr angen i gyfeirio at unrhyw gyrff rheoleiddio/proffesiynol
- Ystyriwch unrhyw ffactorau eraill a allai effeithio ar reolaeth yr achos e.e. ystyried yr angen am strategaeth cyfryngau lle mae’n debygol y bydd diddordeb gan y wasg. (Sylwch na fydd fel arfer, os o gwbl, yn briodol datgelu i’r wasg/cyfryngau pwy yw’r unigolyn na rhannu unrhyw ddeunydd sy’n debygol o ddatgelu pwy ydyw. Fel arfer, bydd yn torri hawliau Erthygl 8 yr unigolyn, ac yn camddefnyddio data personol a/neu wybodaeth gyfrinachol, a gallai arwain at hawliad difenwi. Gallai hefyd niweidio ymchwiliad troseddol).
- Cadarnhau trefniadau ynghylch pwy fydd yn cyfathrebu â’r unigolyn y mae pryderon yn ei gylch a sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei darparu (cyfrifoldeb y cyflogwr fel arfer)
- Cadarnhau’r trefniadau ar gyfer gwneud atgyfeiriadau priodol i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a/neu gyrff cofrestru’r gweithiwr proffesiynol dan sylw (gellir cwblhau hyn ar unrhyw adeg drwy gydol y broses). Gw 'Pedwar Meini Prawf Trothwy'.
Efallai y bydd angen mwy nag un Cyfarfod/Trafodaeth Strategaeth Adran 5 i gydlynu, monitro, adolygu a chwblhau’r broses.
Pwy i’w gwahodd i Gyfarfod Strategaeth Adran 5
Bydd y Cyfarfod Strategaeth Adran 5 yn cael ei gadeirio a’i gynnull gan y Swyddog Dynodedig Diogelu/Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol (gweler Cyfarfod Strategaeth Adran 5).
Mewn sefyllfaoedd lle gwneir honiad am unigolyn a gyflogir o dan nawdd Taliadau Uniongyrchol, mae gan y cyflogwr yr her o gyflawni rôl y cyflogwr a’r oedolyn sy’n wynebu risg/rhiant y plentyn a allai fod wedi cael ei niweidio neu sydd mewn perygl mewn cysylltiad â’r pryder.
Dylai’r cadeirydd yn yr achosion hyn ystyried sut y bydd y rhiant/cyflogwr yn cael ei gefnogi i gyfrannu at y broses. Dylid ymgynghori â’r rhieni/cyflogwr ynghylch manteision trydydd parti sy’n cael gwybod am ddyletswyddau/hawliau cyfraith cyflogaeth i gynrychioli rhiant fel cyflogwr yn y cyfarfodydd strategaeth hyn.
Dylid ystyried gwahodd y canlynol:
- Yr Heddlu
- Rheolwr Tîm a Gweithiwr Cymdeithasol yr oedolyn sy’n wynebu risg neu’r plentyn.
- Rheolwr Lleoliadau/Maethu
- Rheolwyr Lleoliadau Oedolion
- Rheolwr Cofrestredig yr Uned Breswyl lle mae’r honiad yn erbyn gofalwr maeth neu weithiwr preswyl (gan gynnwys y sector gwirfoddol neu asiantaeth breifat)
- Rheolwr cofrestredig ar gyfer darparu gwasanaethau i oedolion, h.y. cartref gofal, darparwr Gofal Cartref, gwasanaethau dydd a byw â chymorth (gan gynnwys y sector gwirfoddol neu asiantaeth breifat)
- Cyflogwr (lle mae’r cyflogwr eisoes yn ymwybodol o bryderon, neu lle mae pryderon wedi cael eu datgelu)
- Tîm Diogelu Corfforaethol Ymddiriedolaeth/bwrdd iechyd y GIG
- Rheoleiddwyr ac Arolygiaethau: Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC); Arolygiaeth Iechyd Cymru (AGIC); Estyn
- Swyddogion Comisiynu/Contractau (lle bo hynny’n briodol)
- Cynrychiolydd addysg pan fydd yr unigolyn dan sylw yn gweithio yn yr asiantaeth hon
- Cynrychiolydd Diogelu Estyn (darpariaethau addysg annibynnol)
- Cadeirydd y Llywodraethwyr os yw’r honiad yn erbyn Pennaeth
- Cynrychiolydd Adnoddau Dynol neu Bersonél (sydd ag awdurdod i gynghori’r cyflogwr am drefniadau cyflogaeth)
- Cynrychiolydd Mudiadau Gwirfoddol
- Cynrychiolydd yr Asiantaeth Gyflogi os darperir y rôl drwy asiantaeth
- Swyddog Monitro (Aelodau etholedig)
- Arweinydd diogelu ar gyfer mannau addoli
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr a bydd yn achosion lle mae’n briodol gwahodd pobl eraill nad ydynt wedi’u rhestru yma.
Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu fydd yn penderfynu pwy fydd yn cael eu gwahodd i gefnogi rhannu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau priodol.
Awgrymiadau Ymarfer: Adran 5 Cyfarfod Strategaeth – Rolau a Chyfrifoldebau; Arferion Da